P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Geiriad y ddeiseb

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio a yw’r strategaethau a’r cynlluniau gweithredu angenrheidiol ar waith gan Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn cyrraedd y targed o ran cyflawni’r Safonau Canser Cenedlaethol erbyn mis Mawrth 2009 yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru, fel mater o frys.

 

Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=869

 

Cynigwyd gan: Rhondda Breast Friends

 

Nifer y llofnodion:Casglodd yr e-ddeiseb 43 llofnod. Hefyd, mae Rhondda Breast Friends wedi datblygu siarter ynghylch y gwelliannau sy’n angenrheidiol i wasanaethau gofal canser, gyda chefnogaeth 1,475 o lofnodwyr.

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 9 Gorffennaf a 6 Tachwedd 2008; 13 Ionawr, 10 Chwefror, 31 Mawrth a 24 Tachwedd 2009; 19 Ionawr, 23 Mawrth, 27 Ebrill, 15 Mehefin a 30 Tachwedd 2010; a 25 Ionawr, 15 Mawrth a 29 Mawrth, 12 Gorffenaf 2011.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.